Yn y coleg buddsoddwyd mewn aelodau o staff sy’n astudio’r Dystysgrif Ôl-raddedig Lefel 7 mewn ADY/Awtistiaeth fel rhan o’n hymrwymiad i’r newidiadau mewn deddfwriaeth ond yn bwysicaf oll i adeiladu ar ein llwyddiant yn y coleg wrth gefnogi dysgwyr i gael mynediad i amgylchedd a chwricwlwm y coleg.
Mae ein graddedigion Lefel 7 wedi bod yn brysur yn datblygu pecyn cymorth ar gyfer staff addysgu o’r enw ‘Ystyriwch Awtistiaeth’. Mae’r pecyn cymorth wedi’i ddatblygu gan ddefnyddio sgiliau a gwybodaeth a ddatblygwyd o’r cwrs yn ogystal â lleisiau dysgwyr awtistig ifanc yn y coleg. Bydd staff yn gallu cyrchu’r pecyn cymorth hwn i’w helpu i nodi anghenion a rhoi arweiniad i roi newidiadau a strategaethau angenrheidiol ar waith i gefnogi dysgwyr awtistig yn y coleg. Bydd staff hefyd yn gallu cyfeirio at gysylltiadau a gwneud apwyntiadau gyda'r Arweinwyr ASD am gyngor ac arweiniad.
Gwybodaeth Bellach
Rhian Francis ALNCo - Y Coleg Merthyr Tudful: RFrancis@merthyr.ac.uk