Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng y pedwar coleg addysg bellach yng Nghonsortiwm Canolbarth y De:
- Coleg Caerdydd a’r Fro
- Coleg Pen-y-bont ar Ogwr
- Coleg Merthyr Tudful
- Coleg y Cymoedd.
Mae’r wefan hon yn darparu adnoddau teilwredig ar gyfer tri o grwpiau rhanddeiliaid:
- Pobl Ifanc
- Rhieni / Gofalwyr
- Gweithwyr Proffesiynol.
Mae’r pynciau a’r adnoddau ar y safle’n gyffredin i bob coleg addysg bellach yng Nghonsortiwm Canolbarth y De, ond y nod yw galluogi defnyddwyr i edrych ar golegau unigol i ganfod gwybodaeth benodol sy’n berthnasol i gefnogaeth ADY a phontio ar gyfer pobl ifanc sydd ag ADY sydd eisiau gwneud cais neu fynychu coleg addysg bellach penodol.