Mae sicrhau bod pobl ifanc yn gallu symud ymlaen i'r coleg neu'r darparwr hyfforddiant sy'n addas iddyn nhw ar yr adeg sy'n iawn iddyn nhw yn allweddol i sicrhau canlyniadau ôl-16 llwyddiannus.
Cynllunio trosglwyddo unigol
Mae llwybrau clir sydd wedi'u cynllunio'n dda i raglenni astudio uchelgeisiol ac o ansawdd uchel yn arbennig o bwysig i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) cymhleth. Mae'r bobl ifanc hyn, a'u rhieni, yn dibynnu ar gadwyn o benderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan wahanol weithwyr proffesiynol cyn y gellir cadarnhau cynlluniau trosglwyddo.
Ar hyn o bryd, nid yw'r rhan fwyaf o bobl ifanc ag ADY sy'n mynychu ysgolion arbennig yn symud ymlaen o'r ysgol nes eu bod yn 19 oed. Ar yr adeg hon byddant fel arfer yn symud ymlaen i naill ai coleg addysg bellach prif ffrwd ranbarthol (y cyfeirir ato yn y ddeddfwriaeth ADY fel Sefydliad Addysg Bellach neu SAB) neu goleg addysg bellach arbenigol (y cyfeirir ato yn y ddeddfwriaeth newydd fel Sefydliad Ôl-16 Arbennig Annibynnol neu ISPI).
Trwy osod anghenion, safbwyntiau, dymuniadau a theimladau dysgwyr wrth wraidd prosesau, credwn fod trawsnewid ADY yn rhoi cyfle i bobl ifanc ag anghenion cymhleth, eu rhieni, gweithwyr addysg ac awdurdodau lleol weithio gyda’i gilydd mewn ffyrdd sydd wirioneddol yn ffocysu ar yr unigolyn. Bydd cynllunio pontio sy’n benodol ar gyfer yr unigolyn, ac sy'n ceisio cefnogi pobl ifanc i gyflawni eu dyheadau a'u nodau, yn sicrhau bod ganddynt yr offer gorau i reoli gofynion eu bywydau ôl-goleg.
Colegau addysg bellach arbenigol
I leiafrif bach o bobl ifanc bob blwyddyn, mae cymhlethdod yr anghenion dysgu ychwanegol sydd ganddynt yn golygu nad yw coleg addysg bellach prif ffrwd yn opsiwn. I'r bobl ifanc hyn, gallai'r dulliau hynod arbenigol sy'n integreiddio rhaglenni therapiwtig a dysgu a gynigir gan golegau addysg bellach arbenigol fod yn opsiwn ôl-ysgol priodol. Mae manylion lleoliad colegau addysg bellach arbenigol yng Nghymru ar gael ar wefan Natspec ac mae Cyfeiriadur Colegau Natspec yn darparu gwybodaeth bellach.
Gweithio mewn partneriaeth
Ein gweledigaeth yw y gall pob person ifanc ag anawsterau dysgu neu anableddau gael mynediad at addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel, sy'n diwallu eu hanghenion ac yn cefnogi eu dyheadau am sgiliau, gwaith a bywyd. Mae Natspec yn awyddus i wella darpariaeth arbenigol ar draws yr holl ddarparwyr. Ni yw'r gymdeithas aelodaeth ar gyfer sefydliadau sy'n cynnig addysg bellach a hyfforddiant arbenigol i ddysgwyr ag anawsterau dysgu a/neu anableddau. Rydym yn cefnogi'r sector addysg bellach ehangach trwy ddarparu hyfforddiant a datblygiad trwy TechAbility a Natspec Transform.
Credwn y dylid rhoi cyfleoedd teg i bobl ifanc ag ADY cymhleth elwa o'r addysg a'r hyfforddiant ôl-ysgol sydd gan Gymru i'w gynnig. Trwy roi anghenion addysg a hyfforddiant unigolion ar flaen y gad wrth wneud penderfyniadau, mae’r ddeddfwriaeth newydd yn agor y drysau i ffyrdd mwy cydgysylltiedig o weithio ac edrychwn ymlaen at chwarae ein rôl wrth wireddu nodau’r diwygiadau.
Am fwy o wybodaeth e-bostiwch Kirsten.jones@natspec.org.uk neu ewch i Natspec.org.uk
Kirsten Jones, Swyddog Polisi (Cymru) Natspec