Dileu Jargon

Rydyn ni’n gwybod bod pobl yn hoffi siarad gan ddefnyddio acronymau ac weithiau mae hyn yn gallu teimlo fel gormod o jargon.

Rydyn ni wedi creu rhestr o ddiffiniadau o A i Y i’ch helpu chi!

Nid yw’r telerau a’r diffiniadau hyn yn ddiffiniadau hollgynhwysfawr na chyfreithiol. Rydyn ni wedi gwneud pob ymdrech i gyfeirio at y ffynonellau. 

Angen (Anghenion) Dysgu Ychwanegol

Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo ef neu hi anhawster dysgu neu anabledd (pa un a yw’r anhawster dysgu neu’r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol ai peidio) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

Mae gan blentyn sydd o’r oedran ysgol gorfodol neu berson sy’n hŷn na’r oedran hwnnw anhawster dysgu neu anabledd—

(a) os yw ef neu hi’n cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na’r mwyafrif o’r rhai eraill sydd o’r un oedran, neu

(b) os oes ganddo ef neu hi anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 (c. 15) sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant o fath a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach.

Mae gan blentyn sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol anhawster dysgu neu anabledd os yw’r plentyn yn debygol o fod o fewn is-adran (2) pan fydd o’r oedran ysgol gorfodol, neu y byddai’n debygol o fod felly pe na bai darpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei gwneud.

Os yw’r iaith (neu’r ffurf ar iaith) y mae neu y bydd person yn cael ei addysgu ynddi yn wahanol i iaith (neu ffurf ar iaith) sy’n cael neu sydd wedi cael ei defnyddio gartref, nid yw hynny’n unig yn golygu bod gan y person anhawster dysgu neu anabledd.

http://www.legislation.gov.uk/anaw/2018/2/section/2

Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol

Ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol” i berson sy’n dair oed neu’n hŷn yw darpariaeth addysgol neu ddarpariaeth hyfforddiant sy’n ychwanegol at yr hyn, neu sy’n wahanol i’r hyn, a wneir yn gyffredinol i eraill sydd o’r un oedran—

(a) mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir yng Nghymru,

(b) mewn sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach yng Nghymru, neu

(c) mewn mannau yng Nghymru lle y darperir addysg feithrin.

http://www.legislation.gov.uk/anaw/2018/2/section/3

Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg 

Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio

Mae anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yn anhwylder ymddygiad sy’n cynnwys symptomau fel diffyg canolbwyntio, gorfywiogrwydd a byrbwylltra.

https://www.nhs.uk/conditions/attention-deficit-hyperactivity-disorder-adhd/

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd

Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig

Mae awtistiaeth yn ffordd wahanol o feddwl a theimlo. Mae’n effeithio ar sut rydych yn profi’r byd o’ch cwmpas.

Efallai bod y canlynol yn berthnasol i bobl awtistig:

  • ei chael yn anodd cyfathrebu a rhyngweithio â phobl eraill
  • ei chael yn anodd deall sut mae pobl eraill yn meddwl neu’n teimlo
  • teimlo bod pethau fel goleuadau llachar neu synau mawr yn ormod iddynt, yn anghyfforddus neu’n creu straen
  • mynd yn bryderus neu’n ddigalon mewn sefyllfaoedd anghyfarwydd a digwyddiadau cymdeithasol
  • cymryd mwy o amser i ddeall gwybodaeth
  • gwneud neu feddwl am yr un pethau drosodd a throsodd.

https://www.nhs.uk/conditions/autism/what-is-autism/

Cyflwr ar y Sbectrwm Awtistig

Mae awtistiaeth yn ffordd wahanol o feddwl a theimlo. Mae’n effeithio ar sut rydych yn profi’r byd o’ch cwmpas.

Efallai bod y canlynol yn berthnasol i bobl awtistig:

  • ei chael yn anodd cyfathrebu a rhyngweithio â phobl eraill
  • ei chael yn anodd deall sut mae pobl eraill yn meddwl neu’n teimlo
  • teimlo bod pethau fel goleuadau llachar neu synau mawr yn ormod iddynt, yn anghyfforddus neu’n creu straen
  • mynd yn bryderus neu’n ddigalon mewn sefyllfaoedd anghyfarwydd a digwyddiadau cymdeithasol
  • cymryd mwy o amser i ddeall gwybodaeth
  • gwneud neu feddwl am yr un pethau drosodd a throsodd.

https://www.nhs.uk/conditions/autism/what-is-autism/

Mae dyslecsia yn anhawster dysgu cyffredin sy’n gallu achosi problemau gyda darllen, ysgrifennu a sillafu.          

Mae’n anhawster dysgu penodol, sy’n golygu ei fod yn achosi problemau gyda rhai galluoedd a ddefnyddir ar gyfer dysgu, fel darllen ac ysgrifennu.          

Amcangyfrifir bod gan 1 o bob 10 person yn y DU ryw lefel o ddyslecsia.

Mae dyslecsia’n broblem oes sy’n gallu creu heriau o ddydd i ddydd, ond mae cefnogaeth ar gael i wella sgiliau darllen ac ysgrifennu ac i helpu’r rhai sydd â phroblem i fod yn llwyddiannus yn yr ysgol a’r gwaith.

https://www.nhs.uk/conditions/dyslexia/

Mae dyspracsia, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel anhwylder cydsymudiad datblygiadol (ACD), yn anhwylder cyffredin sy’n effeithio ar eich symudiad a’ch cydsymudiad.

Nid yw dyspracsia’n effeithio ar eich deallusrwydd, ond gall wneud eich bywyd o ddydd i ddydd yn anodd. Gall effeithio ar eich sgiliau cydsymudiad – fel tasgau sydd angen cydbwysedd, cymryd rhan mewn chwaraeon neu ddysgu gyrru car – a’ch sgiliau motor cain, fel ysgrifennu neu ddefnyddio gwrthrychau bach.    

Efallai y bydd tasgau o ddydd i ddydd yn anodd i chi a gall fod yn anodd ymdopi yn y gwaith.

Os oes gennych chi ddyspracsia efallai eich bod yn cael problemau gyda’r canlynol:

  • cydsymudiad, cydbwysedd a symudiad
  • dysgu sgiliau newydd, meddwl, a chofio gwybodaeth yn y gwaith ac mewn gweithgareddau hamdden
  • sgiliau byw o ddydd i ddydd, fel gwisgo a pharatoi prydau bwyd
  • ysgrifennu, teipio, tynnu llun a gafael mewn gwrthrychau bach
  • sefyllfaoedd cymdeithasol
  • delio â’ch emosiynau
  • rheoli amser, cynllunio a threfniadaeth bersonol.

https://www.nhs.uk/conditions/developmental-coordination-disorder-dyspraxia-in-adults/

Yn cael ei gysylltu’n aml â dyslecsia, mae pobl sydd â dyscalcwlia (y cyfeirir ato weithiau fel bod yn ddall i rifau) yn dangos anhawster mawr gyda rhifau, rhifyddeg a chysyniadau mathemategol.

Mae’r anawsterau cysylltiedig a dyscalcwlia’n cynnwys y canlynol: cyfrif am yn ôl, anhawster darllen clociau analog; cofio rhifau, prisiau a rhifau ffôn, cario a benthyca, gwerth lle, cynllunio, amserlennu a bod ar amser, amserlenni ysgol a dyddiadau cau.

https://www.dyslexic.com/blog/what-is-dyscalculia/

Anhawster Dysgu Penodol.

Cymorth Dysgu Ychwanegol.

Anhawster / Anabledd Dysgu

Anhawster / Anabledd Dysgu Difrifol.

Anhawster Dysgu Cymedrol.

Anhawster Dysgu Cyffredinol.

Nam ar y Clyw.

Nam ar y Golwg

Anabledd perthnasol i’r ffordd mae arwyddion gweledol yn cael eu cludo o’r llygaid i’r ymennydd. Gall arwain at anghenion addysgol arbennig.   

Iaith Arwyddion Prydain

Mae Iaith Arwyddion yn ffordd weledol o gyfathrebu gan ddefnyddio ystumiau, mynegiant wyneb, ac iaith y corff. Defnyddir Iaith Arwyddion yn bennaf gan bobl sy’n Fyddar neu sydd â nam ar y clyw.              

PECS®️ 

Picture Exchange Communication System® Mae PECS yn addysgu cyfathrebu swyddogaethol gan ddefnyddio lluniau a symbolau fel ysgogiadau cyfathrebu, gan helpu pobl gyda’u rhwystrau’n atal cyfathrebu llafar i fynegi eu meddyliau, eu teimladau a’u dewisiadau. 

Therapi Lleferydd ac Iaith

Mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith, SALT neu SLT yn asesu ac yn trin problemau lleferydd, iaith a chyfathrebu pobl o bob oedran i’w helpu i gyfathrebu’n well. Hefyd maent yn gweithio gyda phobl sy’n cael anawsterau bwyta neu lyncu. Gall ThLlI fod yn bwysig wrth asesu plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig a darparu cefnogaeth ychwanegol iddynt.      

Therapydd Galwedigaethol  

Mae therpaydd galwedigaethol neu ThG yn weithiwr meddygol proffesiynol sy’n ymarfer therapi galwedigaethol. Therapi galwedigaethol yw asesu a thrin cyflyrau corfforol a seiciatryddol gan ddefnyddio gweithgareddau i gyfyngu ar effaith yr anabledd a hybu annibyniaeth. Gall ThG fod yn bwysig wrth asesu a chefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Seicolegydd Addysg

Mae seicolegydd addysg neu SA yn weithiwr meddygol proffesiynol sydd wedi’i hyfforddi i asesu a rhoi diagnosis o anawsterau dysgu, problemau cymdeithasol ac emosiynol, ac anhwylderau datblygiadol. Maent yn rhan ganolog fel rheol o asesu anghenion addysgol arbennig, gan argymell cefnogaeth a gwahaniaethu yn y cwricwlwm.            

Cynllun Dysgu a Sgiliau.

Anawsterau Ymddygiad, Emosiynol a/neu Gymdeithasol.

Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill.

Adolygiad Blynyddol

Dylai’r adolygiad gael ei gynnal unwaith y flwyddyn, ond gellir cynnal adolygiadau’n gynnar os bydd newidiadau sylweddol yn digwydd. Dylai’r person fod yn ganolog yn yr adolygiad a dylai ystyried a yw’r ddarpariaeth, y lleoliad neu’r canlyniadau’n briodol o hyd.            

Cynllun Datblygu Unigol

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed

Mae’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed neu CAMHS yn rhan arbenigol o’r GIG sy’n asesu ac yn trin plant a phobl ifanc sydd ag anawsterau emosiynol, ymddygiad neu iechyd meddwl. Mae meddygon teulu’n cyfeirio plant at CAMHS yn aml ar gyfer asesiad o’u hanghenion addysgol arbennig a’u hanableddau. Gall CAMHS fod yn bwysig yn aml i sicrhau cefnogaeth ar gyfer anghenion addysgol arbennig ac anableddau.

Sefydliad Addysg Bellach

Addysg bellach neu AB yw’r cyfnod mewn addysg ar ôl oedran ysgol ond, yn y rhan fwyaf o achosion, yn is na lefel gradd.

Addysg Uwch

Addysg uwch neu AU yw’r cyfnod mewn addysg yn y brifysgol neu addysg sy’n arwain at gymhwyster sy’n cyfateb i radd. Nid yw’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (ADYTA) yn cynnwys pobl ifanc yn y brifysgol.            

Awdurdod Addysg Lleol

Awdurdod lleol neu ALl yw’r corff sy’n gyfrifol am wasanaethau cyhoeddus fel llyfrgelloedd, ysgolion, parciau ac amddiffyn plant. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod pob plentyn yn cael addysg addas. Mae hyn yn golygu bod rhaid i bob plentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig gael eu hadnabod a’u cefnogi’n briodol.

Awdurdod Lleol      

Awdurdod lleol neu ALl yw’r corff sy’n gyfrifol am wasanaethau cyhoeddus fel llyfrgelloedd, ysgolion, parciau ac amddiffyn plant. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod pob plentyn yn cael addysg addas. Mae hyn yn golygu bod rhaid i bob plentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig gael eu hadnabod a’u cefnogi’n briodol.

Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol.

Anhwylder Herio Gwrthryfelgar.

Osgoi Gofynion Patholegol.

Anhawster Dysgu Dwys a Lluosog.

Uned Cyfeirio Disgyblion.

Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol  

Aelod wedi’i enwi o staff mewn ysgol neu goleg sy’n gyfrifol am gydlynu cefnogaeth ychwanegol i ddisgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau. Bydd y CydADY yn cysylltu â phobl ifanc, rhieni/ gofalwyr, athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill. 

Cynllun Addysg Personol.

Cymhorthydd Addysgu

Mae cymhorthydd cymorth dysgu (CCD), cymhorthydd addysgu (CA) neu weithiwr cymorth yn y dosbarth (GDC) yn aelod o staff mewn ysgol neu goleg sy’n cefnogi’r dosbarth a/neu’r athro. Efallai y bydd gan bobl ifanc sydd ag angen dysgu ychwanegol (ADY) a/neu anableddau eu CCD eu hun i’w helpu i ddysgu.  

Cymhorthydd Cymorth Dysgu

Mae cymhorthydd cymorth dysgu (CCD), cymhorthydd addysgu (CA) neu weithiwr cymorth yn y dosbarth (GDC) yn aelod o staff mewn ysgol neu goleg sy’n cefnogi’r dosbarth a/neu’r athro. Efallai y bydd gan bobl ifanc sydd ag angen dysgu ychwanegol (ADY) a/neu anableddau eu CCD eu hun i’w helpu i ddysgu.    

Gweithiwr Cymorth yn y Dosbarth

Mae cymhorthydd cymorth dysgu (CCD), cymhorthydd addysgu (CA) neu weithiwr cymorth yn y dosbarth (GDC) yn aelod o staff mewn ysgol neu goleg sy’n cefnogi’r dosbarth a/neu’r athro. Efallai y bydd gan bobl ifanc sydd ag angen dysgu ychwanegol (ADY) a/neu anableddau eu CCD eu hun i’w helpu i ddysgu.  

Plentyn Sy’n Derbyn Gofal            

Mae plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol—

(a) os nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ac os yw’n derbyn gofal gan awdurdod lleol at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”), a (b) os nad yw’n berson sy’n cael ei gadw’n gaeth.

http://www.legislation.gov.uk/anaw/2018/2/section/15

Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu.

Saesneg fel Iaith Ychwanegol.

Ffisiotherapydd

Mae ffisiotherapyddion yn cefnogi pobl sy’n cael eu heffeithio gan anaf, salwch neu anabledd drwy symudiad, ymarfer, therapi maniwal, addysg a chyngor. Efallai y bydd plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig perthnasol i sgiliau motor angen ffisiotherapi er mwyn cael addysg.